Ymchwiliad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd i Bolisi Ynni a Chynllunio yng Nghymru

Cylch Gorchwyl

Mae Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru’n cynnal ymchwiliad i bolisi ynni a chynllunio yng Nghymru. Dyma gylch gorchwyl yr adolygiad.

Bydd y Pwyllgor yn ystyried sut mae’r trefniadau datganoli presennol ar gyfer polisi ynni a chynllunio yn effeithio ar gyflawni’r ‘cymysgedd ynni’ y mae Llywodraeth Cymru am ei weld, fel yr amlinellir yn Chwyldro Carbon Isel – datganiad polisi ynni (2010) a’r UK Renewable Energy Roadmap (2011).

·         Beth yw’r goblygiadau i Gymru os bydd y cyfrifoldeb dros ganiatáu prosiectau seilwaith mawr ar y tir mawr ac ar y môr yn parhau i fod yn fater sy’n cael ei gadw yn ôl gan Lywodraeth y DU?

·         Sut mae hyn effeithio ar gyflawni dyheadau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwahanol fathau o ynni adnewyddadwy, fel y’u nodir yn y Datganiad Polisi Ynni?

·         Sut mae hyn yn effeithio ar gyflawni targed Llywodraeth Cymru o gael gostyngiad o 3 y cant mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr bob blwyddyn o 2011 ymlaen?

·         Beth fydd yr effaith os na fydd penderfyniadau caniatáu ar gyfer prosiectau seilwaith mawr a datblygiadau cysylltiedig yn cael eu gwneud yn unol â pholisi cynllunio Cymru?

Bydd y Pwyllgor hefyd yn ystyried dwy ddeiseb am ganllawiau cynllunio Llywodraeth Cymru mewn perthynas ag ynni gwynt ar y tir mawr a’r effaith ar gymunedau lleol a seilwaith.